2012 Rhif 3095 (Cy. 312)

yr iaith gymraeg

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) caiff Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg bellach wedi’i ddiddymu a throsglwyddwyd y swyddogaeth o roi hysbysiad o dan Ran II o’r Ddeddf i Gomisiynydd y Gymraeg yn rhinwedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  Mae adran 6 o’r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o’r Ddeddf ac yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweinidogion Cymru bellach) bennu cyrff cyhoeddus at y dibenion hynny.

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu Corff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion Rhan II o’r Ddeddf.

Mae chwe Gorchymyn blaenorol wedi’u gwneud o dan adran 6 o’r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550(Cy.215));

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441(Cy.145));

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 (O.S. 2004/71(Cy.7)); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008 (O.S. 2008/1890(Cy.179)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.  O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoliadol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio a’r Gorchymyn hwn.  Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

 


2012 Rhif  3095 (Cy. 312)

yr iaith gymraeg

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012

Gwnaed                               13 Rhagfyr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       14 Rhagfyr 2012

Yn dod i rym                           4 Ionawr 2013

Gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y person y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn yn berson sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1)(o) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt([2]) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012 a daw i rym ar 4 Ionawr 2013.

Pennu Corff Cyhoeddus

2. Pennir Corff Adnoddau Naturiol Cymru([3]) at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

13 Rhagfyr 2012



([1])           1993 (p.38).

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hynny wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

([3])           Sefydlwyd Corff Adnoddau Naturiol Cymru gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903(Cy.230)).